Taith Gerdded Noddedig ar gyfer Wcráin

Ar ddiwrnod cyntaf Gwyliau’r Pasg, cododd criw dewr o flwyddyn 7 yn gynnar tra roedd eu ffrindiau i gyd yn cysgu, yn dilyn ymdrechion tymor hir arall, er mwyn ymgymryd â her 10 milltir i godi arian i bobl yr Wcráin. 

Roeddent wedi gobeithio rhoi cynnig ar yr Wyddfa, ond gydag eira’n bygwrth ar y topiau, aethant am gylchdaith o amgylch Llyn Crafnant, Llyn Geirionydd, Llyn Bychan a Nant y Geuallt yn lle hynny. 

Rhoddodd y tywydd bedwar tymor iddynt mewn un diwrnod, yn amrywio o stormydd cenllysg i heulwen bendigedig, ond roedd y criw mewn hwyliau da a llwyddasant i gwblhau’r gylchdaith mewn tua 6 ½ awr, gan fwynhau golygfeydd hyfryd dros ddyffryn Conwy a’r Wyddfa ei hun ar hyd y daith. 

Bydd y grŵp yn casglu eu harian nawdd ar ôl gwyliau’r Pasg – os hoffech gyfrannu gallwch wneud hynny drwy ap School Gateway ('Apêl Wcráin') neu drwy chwilio am ddigwyddiadau'r dyfodol ar hyd y tymor nesaf.

CY