Yn ddiweddar, mynychodd Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 sgwrs ar bwnc diogelwch ffordd a draddodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.


Mae hwn bob amser yn bwnc pwysig, ond cafodd ei wneud yn fwy emosiynol ac effeithiol i fyfyrwyr y chweched dosbarth oherwydd ei ffocws perthnasol. Canolbwyntiodd y gwasanaeth ar stori Olivia, disgybl Blwyddyn 13 lleol, a fu farw yn 2019. Roedd hi'n deithiwr mewn car a oedd yn cael ei yrru'n rhy gyflym a chafodd dynged drasig pan ddechreuodd y gyrrwr rasio yn erbyn ffrind i'r ddau ohonynt. Cafodd y ddau ffrind ysgol a oedd yn gyfrifol am y ddamwain eu rhoi yn y carchar.


Roedd yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn gobeithio codi ymwybyddiaeth a chyfleu pwysigrwydd gyrru'n diogel i bobl ifanc. Nid yw di-hidrwydd yn werth y risg.