Jaxen yn cael ei ddewis ar gyfer y Garfan

Llongyfarchiadau i Jaxen ym mlwyddyn 7 sydd wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Datblygu Rhanbarthol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC). Mae’r garfan yn cynnwys cymysgedd o chwaraewyr o Ogledd a De Cymru, a gafodd eu geni i gyd yn 2011 ac sy’n chwarae i academïau clwb pêl-droed proffesiynol.

Dechreuodd Jaxen chwarae pêl-droed yng Nghlwb Pêl-droed Bae Penrhyn ac Academi Clwb Pêl-droed Llandudno cyn ymuno â Chlwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam a chael ei ddewis ar gyfer yr Academi broffesiynol elît yn Crewe Alexandra.

Wedi’i ddewis bellach i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngharfan Datblygu Rhanbarthol CBDC, ymunodd Jaxen â charfan gymysg y Gogledd/De i chwarae yn eu gêm gyntaf yr wythnos hon, gêm y mae CBDC yn ei hystyried yn rhan o’u “llwybr” i’r garfan genedlaethol lawn. Yn ogystal â chwarae mewn gemau ychwanegol, bydd Jaxen yn mynychu nifer o wersylloedd hyfforddi deuddydd ym Mhencadlys CBDC Gogledd Cymru, ym Mharc Colliers ger Wrecsam. 

Bydd y garfan yn parhau i gael gemau ac yn mynychu gwersylloedd y tymor hwn ac i mewn i dymor 24/25, a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2025 gyda thwrnamaint “Cwpan Cymru”, gyda Gogledd Cymru yn cystadlu yn erbyn De Cymru! Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedyn yn dewis eu carfan genedlaethol dan 15 oed llawn.

CY