Diwrnod Siwmper Nadolig

Lledaenodd staff a myfyrwyr ychydig o hwyl yr ŵyl yn yr ysgol ar ddydd Mercher 20 Rhagfyr pan gawsant gyfle i wisgo siwmperi Nadolig yn gyfnewid am gyfraniad i Apêl Banc Bwyd Conwy. Gallai myfyrwyr ddewis dod â bwyd, pethau ymolchi neu gyfraniad ariannol o £1 i’r ysgol ac yna gwisgo siwmper Nadoligaidd o’u dewis yn lle eu siwmper ysgol arferol. Rydym wrth ein bodd bod cymaint wedi dewis cymryd rhan a chefnogi ein Banc bwyd lleol.

CY