Gwobrau Cadetiaid y Môr

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr a gafodd eu cydnabod yn noson wobrwyo Cadetiaid y Môr a gynhaliwyd nos Iau 14 Rhagfyr yn eu Pencadlys yn Neganwy. Roedd Mr Gerrard yn falch iawn o gynrychioli’r ysgol yn y digwyddiad, ochr yn ochr â Maer Conwy (gweler y llun) a Miss Janette Hughes, ac yn arbennig i ddyfarnu’r ‘wobr arweinyddiaeth’ flynyddol i Aleena ym mlwyddyn 10.

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â’r cadetiaid ewch i’w gwefan : https://www.sea-cadets.org/conwycounty

CY