Beicio dros Gymru

Llongyfarchiadau i Sam ym mlwyddyn 11, ar gystadlu yn ei ras gyntaf i Dîm Cymru penwythnos diwethaf. Gwnaeth ymdrech wych, gan orffen yn y 10 uchaf yn un o’r rasys hollbwysig ac yna gorffen yn yr 16eg safle mewn ras ffordd 75km a gynhaliwyd mewn glaw trwm! Daeth Tîm Cymru yn 8fed yn gyffredinol, canlyniad gwych, o ystyried bod y rhan fwyaf o’r tîm yn perthyn i ystod iau eu categori oedran. Yn ogystal, llwyddodd Sam i gael ei ddewis yn ddiweddar ar gyfer rhaglen Ysgol Rasio Genedlaethol Prydain. Bydd yn cael ei hyfforddi gan hyfforddwyr Beicio Prydain ac yn mynychu gwersylloedd hyfforddi rheolaidd.

CY