Shakespeare yn y Castell

Yn ddiweddar mynychodd criw bach o fyfyrwyr blwyddyn 8 a 9 berfformiad o 'Twelfth Night' gan y Duke's Theatre Company yng Nghastell Conwy.

Roedd y tywydd yn wych ac roedd y lleoliad yn gefndir perffaith ar gyfer y perfformiad awyr agored. Cafodd y myfyrwyr i gyd amser bendigedig gan fwynhau’r profiad yn fawr. Gwnaeth aelodau’r cyhoedd sylw ar ba mor wych oedd gweld grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau mor frwd dros Shakespeare!

Meddai’r Dirprwy Bennaeth Saesneg, Bethan Hughes, “Mae dramâu Shakespeare yn ein dysgu amdanon ni’n hunain a’r ddynoliaeth. Er ei bod yn gomedi ramantus, mae 'Twelfth Night' yn dangos i ni'r llu o gariad a'r boen y gall ei achosi. Trwy wylio perfformiadau byw mae myfyrwyr yn cael y cyfle i werthfawrogi iaith a chrefft llwyfan Shakespeare, sy’n eu paratoi ar gyfer eu TGAU mewn Llenyddiaeth Saesneg ac yn y perfformiad hwn roedden nhw’n chwerthin yn braf drwy gydol y perfformiad!”

CY