Celf Pontio'r Cenedlaethau

Cafodd saith o fyfyrwyr Blwyddyn 11, TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant amser gwych mewn gweithgaredd celf pontio'r cenedlaethau a gynhaliwyd gan Dîm Llesiant Conwy.

Cynhaliwyd y gweithgaredd dros ddwy awr yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy lle cafodd pob myfyriwr ei baru ag oedolyn hŷn. Yna fe wnaethant ddarganfod yr hyn a allent am ei gilydd trwy sgwrsio, cyn defnyddio'r ffeithiau hyn i wneud darnau gwych o gelf yn seiliedig ar eu gwybodaeth am y person arall.

Meddai’r athrawes Myfanwy Wilson, “Fedra'i ddim mynegi pa mor falch ac edmygus yr oeddwn o'n pobl ifanc heddiw. Dywedodd yr oedolion hŷn bethau gwych amdanyn nhw. Roedd y merched yn amyneddgar, yn foneddigaidd ac yn gwrtais. Roedden nhw'n glod gwirioneddol i'r ysgol ym mhob ffordd. Cawsom fore hyfryd iawn!”

CY