Cafwyd cyffro mawr ymhlith myfyrwyr, staff a rhieni fel ei gilydd wrth i ni gychwyn o’r ysgol ddiwedd mis Chwefror ar gyfer taith sgïo gyntaf ysgol Aberconwy ers y pandemig. Aeth 81 o fyfyrwyr, yn amrywio o flwyddyn 8 hyd at flwyddyn 12, gyda 10 aelod o staff mewn dau fws i Hopfgarten im Brixental yn rhanbarth Ski Welt yn Awstria. Roeddem ni i gyd wedi bod yn gwylio'r camerâu eira yn frwd yn y gyrchfan ac yn gwybod ein bod yn disgwyl dyddiau braf ar gyfer sgïo, felly roeddem yn croesi'n bysedd y byddai'r eira'n parhau i fod yn dda.
Ni chawsom ein siomi. Roedd yno amrywiaeth eang o lethrau ar gyfer sgiwyr o bob gallu mewn cyrchfan a oedd yn cynnwys sawl man cychwyn o amgylch ardal fynyddig fawr. Cafodd yr holl fyfyrwyr eu herio, gan wella'u sgïo o dan gyfarwyddyd rhagorol tywyswyr sgïo lleol. Roedd yr haul yn gwenu a chafodd pawb amser gwych. Roedd ein gwesty yn wirioneddol wych, gyda bwyd arbennig, ystafelloedd cyfforddus a staff cyfeillgar, cymwynasgar. Cynhaliwyd disgo ar ein cyfer un noson, gyda rhai staff a myfyrwyr yn gwisgo i fyny. Trefnwyd nosweithiau carioci a nosweithiau gemau yn y lolfa wych. Cawsom hwyl hefyd yn nofio yn Kitsbuel a byrddio gyda'r nos ar y llethr dysgwyr leol.
Fe wnaeth y myfyrwyr ymddwyn yn arbennig o dda, gan wneud y daith yn llawer o hwyl i bawb a gymerodd ran. Roedd staff y gwesty yn rhyfeddu bod pobl ifanc yn gallu clirio ar eu holau eu hunain amser bwyd ac wedi llwyddo i adael eu hystafelloedd fel pin mewn papur ar ddiwedd yr wythnos. Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’r 81 o bobl ifanc a diolch yn fawr gan yr holl staff, a fwynhaodd eu cwmni yn fawr.