Cystadleuaeth Poster Siarter Iaith

Mae’r ysgol wedi cychwyn ar ei thaith tuag at Wobr Efydd y Siarter Iaith. Mae’r Siarter Iaith yn Wobr Genedlaethol a ddyfernir i ysgolion yng Nghymru er mwyn eu llongyfarch ar eu defnydd o’r Gymraeg. Un o'r adnoddau yr oedd eu hangen er mwyn cyflawni Gwobr Efydd y Siarter Iaith oedd posteri diddorol i annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg o gwmpas yr ysgol. 

Gwahoddwyd myfyrwyr o bob blwyddyn, felly,, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gelf er mwyn dylunio’r poster gorau yn hyrwyddo gwahanol fathau o ymadroddion a negeseuon Cymraeg. Derbyniodd yr adran Gymraeg lawer o geisiadau gwych ond yn y diwedd penderfynwyd ar y tri enillydd teilwng canlynol.

Llongyfarchiadau i Daniel yn 8LLC a enillodd y wobr gyntaf gyda’r dyluniad lliwgar hwn:

Dyfarnwyd yr ail wobr i Amelia yn 9DC am ei delwedd draig Gymreig:

A daeth Jensen yn 7HM yn drydydd gyda'r dyluniad ysbrydoledig hwn:

Da iawn i bawb a gymerodd ran, bydd y posteri gorau yn cael eu harddangos o gwmpas yr ysgol i bawb gael eu gweld!

CY