Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd

​Ar Ddydd Llun 26ain Medi fe wnaethom ymuno ag ysgolion ar draws Ewrop i ddathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd. Ceisiodd pob adran gynnwys elfennau o ieithoedd Ewropeaidd yn eu gwersi. Cawsom 'Kinball' mewn Addysg Gorfforol, datrys problemau mewn Mathemateg gan ddefnyddio rhifau o wahanol ieithoedd, cwis baneri Ewrop a phrifddinasoedd mewn Daearyddiaeth, i enwi dim ond rhai.

Mwynhaodd myfyrwyr a staff fwydlen thema Ewropeaidd yn y ffreutur a oedd yn cynnwys seigiau blasus fel Lasagne, Empenada Sbaenaidd, Paella Llysiau, Croissant, Pain au Chocolat, tafelli Pizza, Croissant gyda ham a chaws, Baguettes gyda llenwadau amrywiol a Gelato.

Roedd hefyd helfa drysor i ddarganfod ffeithiau amser egwyl a chinio, cystadleuaeth Bake Off a chyfle i wneud ychydig o beintio cerrig mân gyda thema Ewropeaidd i fyfyrwyr ar ôl ysgol.

Bu Mrs Sewell yn garedig iawn yn cynnig gwasanaeth beirniadu ar gyfer gystadleuaeth Bake Off, ac er bod y gystadleuaeth yn un anodd, llwyddodd i ddod o hyd i'r goreuon. Llongyfarchiadau i Aleena ym mlwyddyn 9 a ddaeth yn gyntaf, Pryce ym mlwyddyn 11 a ddaeth yn ail ac i Amy ac Alyssia ym mlwyddyn 7 a ddaeth yn drydydd.

Bydd unrhyw gacennau na chawsant eu casglu yn cael eu rhoi i stondin goffi Macmillan i helpu i godi arian i Macmillan yn ystod ein Noson Agored.

Dywedodd Jamie McAllister, pennaeth Ieithoedd Rhyngwladol, “Roedd mor braf bod yn un o gannoedd o ysgolion ar draws y cyfandir sy’n dathlu amrywiaeth ieithoedd heddiw. Roedd yr ysgol yn falch iawn o ymdrechion y staff a’r myfyrwyr!”

CY