Pencampwyr Byd Dawns!

Mae pedwar o fyfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi dod yn bencampwyr byd ym Mhencampwriaethau Dawnsio Stryd y Byd y Sefydliad Dawns Unedig (UDO)…

Llongyfarchiadau i Keiyarna (Blwyddyn 10), Evie ac Aleah (Blwyddyn 11) a Coral sydd wedi gadael yn ddiweddar ar ol-cwblhau ei harholiadau TGAU, a gystadlodd yn nhim 'Autonomy' i ennill yr adran Nofis dan 18 oed!

Daeth miloedd o ddawnswyr o bob rhan o’r byd at ei gilydd yn y pencampwriaethau hyn i gystadlu am nifer o deitlau Pencampwyr y Byd yn y Winter Gardens yn Blackpool, o flaen beirniaid a oedd yn cynnwys dawnswyr Hip Hop a Dawnsio Stryd gorau’r byd.

Bu’n rhaid i’r tîm o un ar ddeg dawnsiwr, pob un ohonynt rhwng 13 – 17 oed o ysgolion uwchradd lleol ac yn aelodau o dîm dawnsio stryd a leolir yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Cam Un, ddod trwy rhagbrofion rhanbarthol yn Stoke yn ôl ym mis Mai, er mwyn gallu cystadlu .

Efallai mai dim ond dwy funud a hanner o hyd oedd y ddawns, ond fe gymerodd oriau ac oriau o amser stiwdio yn ystod y deuddeg mis diwethaf i'w pherffeithio. Camp wych a haeddiannol i’r tîm a lynodd gyda’i gilydd drwy COVID gan ymarfer, yn aml, trwy gyswllt fideo pan na allent ddod at ei gilydd i ymarfer.

Nid yn unig y daethant yn gyntaf yn y rhagbrofion rhanbarthol ym mis Mai, ond daethant hefyd yn gyntaf yn rownd gyntaf y gystadleuaeth yn Blackpool, gan eu galluogi i symud ymlaen yn syth i'r rownd derfynol. Yna, yn erbyn saith tîm rhyngwladol arall, enillasant y marciau uchaf, gan hawlio buddugoliaeth a'r teitl pencampwyr y byd!

I wylio eu perfformiad gwych, gwyliwch y fideo YouTube isod.

CY