Dysgu yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy

Ymwelodd myfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11 sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r llyfrgell yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn ddiweddar i fenthyg llyfrau fel rhan o’u hymchwil ar gyfer eu gwaith cwrs asesiad di-arholiad (NEA). Daeth y merched o hyd i lyfrau yn ymwneud yn benodol â’u pynciau ymchwil eu hunain i’w benthyg. Roedd hwn yn brofiad newydd i rai myfyrwyr ac nid oedd sawl un wedi ymweld â llyfrgell gyhoeddus ers yr ysgol gynradd. 

Bu Leonie, myfyriwr ym Mlwyddyn 11, hefyd yn gwneud peth o’i gweithgaredd gwaith cwrs yn y ganolfan. Dysgodd ddosbarth Technoleg Gwybodaeth (TG), a gynhelir gan Goleg Llandrillo, rhai sgiliau cyfrifiadurol gan gynnwys sut i greu chwilair ar-lein, gweithgaredd a gynlluniwyd ganddi i annog cynnal sgiliau gwybyddol mewn oedolion hŷn.

Dywedodd yr athrawes, Myfanwy Wilson, “Mae’n bleser gennym fod wedi gwneud cysylltiadau gwych gyda’r Ganolfan Ddiwylliant, sydd wedi bod yn hynod garedig a chroesawgar i ni, gan alluogi ein myfyrwyr i elwa o ddefnyddio eu cyfleusterau gwych. Rwy’n gobeithio gallu mynd â mwy o fyfyrwyr yno yn fuan.” 

CY