Sophie i Gynrychioli Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod un o’n myfyrwyr blwyddyn 11 wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o Garfan Merched Dan 17 Oed yn Nhwrnamaint Rhagbrofol EURO i Ferched Dan 17 Oed. 

Bydd Sophie yn teithio gyda’r garfan i Gothenburg, Sweden a bydd yn chwarae yn erbyn Yr Eidal (dydd Gwener 22 Hydref), Ffrainc (dydd Llun 25 Hydref) a’r gwesteiwyr Sweden (dydd Iau 28 Hydref) yn y twrnamaint byr. 

Dyma fydd y tro cyntaf i EURO Merched Dan 17 Oed gael ei gynnal ers i gemau gael eu gohirio o ganlyniad i bandemig COVID-19 yng ngwanwyn 2020. Hoffem longyfarch Sophie ar ei chyflawniad gwych a dymuno pob lwc yn y twrnamaint i Sophie a gweddill y tîm!

CY