Diolch am ymweld â'n tudalen Cyfleoedd Gwaith. Bydd unrhyw swyddi gwag yn cael eu harddangos isod.
Goruchwyliwr Arholiadau
Ystod Cyflog: £14.18 yr awr
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 23 Mawrth 2026
Dyddiad Dechrau: 1 Mai 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Mae'r ysgol yn bwriadu ehangu ei thîm o oruchwylwyr arholiadau yn barod ar gyfer y gyfres arholiadau sy'n dechrau ar Mai 1af 2025. Wedi hynny bydd gwaith ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy drefniant, ac felly mae hyblygrwydd sylweddol ar gael.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant ar gyfer y rôl, ac o ganlyniad, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1100 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
disgrifiad swydd.