Chwedlau Cymreig

Bu Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr a bardd Cymraeg yn ymweld ag Ysgol Aberconwy yn ddiweddar i gwrdd â’n myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf blwyddyn 7 er mwyn trafod rhai o'r chwedlau lleol sydd wedi’u cynnwys yn ei lyfr am chwedlau Cymreig o Ddyffryn Conwy.

Dysgodd y myfyrwyr am chwedl Llys Helig, palas Helig ap Glannawg a arferai sefyll rhywle rhwng Penmaenmawr, Llandudno ac Ynys Seiriol, ac a ddinistriwyd gan lifogydd mawr rywbryd yn y 6ed Ganrif. 

Cawsant hefyd fwynhau clywed straeon am afanc angenfilaidd afon Conwy, Tylluan Cwm Cowlyd a oedd, yn ôl pob sôn, yn un o anifeiliaid hynaf y byd, a Santes Ffraid yng Nglan Conwy, a fwydodd y pentrefwyr newynog, fel rhan o’u hastudiaethau i chwedlau Cymru.

CY