Cwpan FA Ysgolion Cymru

Llongyfarchiadau i'r tîm bechgyn dan 14 (Blwyddyn 9) a berfformiodd yn wych oddi cartref yn erbyn Syr Hugh Owen, gan ennill 7-1 a sicrhau eu lle yn rowndiau cenedlaethol Cwpan FA Ysgolion Cymru.

Seliwyd y fuddugoliaeth yn sgil dwy gôl syfrdanol yr un gan y Capten Harry a'r eilydd Osian, ynghyd â goliau pellach gan Regan, Jarod a Jacob!

Dyma'r ail dro mewn tri blynedd i'r garfan hon gyrraedd y rownd genedlaethol. Gobeithio y bydd eu taith fuddugol yn parhau ymhell i mewn i'r gystadleuaeth!

Rydym mor falch o glywed y newyddion bod Jaxen, Blwyddyn 9, wedi cael ei ddewis i gynrychioli pêl-droed Bechgyn Ysgol Cymru dan 14 ddechrau 2026 yn erbyn Dinas Abertawe.

Carreg filltir enfawr yng ngyrfa Jaxen - y cyntaf, gobeithio, o lawer o gapiau i Gymru. Llongyfarchiadau, Jaxen!

CY