Anturiaethau Awyr Agored Glan-llyn

Cafodd disgyblion Blwyddyn 7 brofiad wirioneddol gofiadwy yn ystod eu taith i Ganolfan Awyr Agored Glan-llyn ym mis Hydref. Fel rhan o’n rhaglen pontio, mae’r daith hon yn chwarae rôl bwysig wrth helpu ein disgyblion newydd i adeiladu perthnasoedd cadarn, magu hyder ac ymgyfarwyddo â diwylliant yr ysgol. Eleni, unwaith eto, gwelsom ddisgyblion yn camu y tu allan i’w parthau cysur ac yn ymroi’n llawn i bob her a'u hwynebant.

Drwy gydol y cyfnod, bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau. Roedd y gweithgareddau tîm yn rhoi cyfle iddynt ddangos sgiliau cyfathrebu, meddwl yn greadigol a chydweithio mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon. Roedd hi’n bleser mawr i’r staff weld pa mor naturiol yr oedd y grwpiau’n meithrin ymddiriedaeth ac yn cefnogi ei gilydd i gwblhau tasgau heriol.

Yn ychwanegol, roedd y gweithgareddau dŵr yn uchafbwynt i nifer o’r disgyblion. I rai, dyma’r tro cyntaf iddynt roi cynnig ar weithgareddau fel canŵio neu adeiladu rafft, ac roedd eu balchder ar ddiwedd y sesiwn yn amlwg. Mae’r profiadau hyn nid yn unig yn meithrin sgiliau corfforol a meddyliol ond hefyd yn helpu’r disgyblion i ddatblygu gwydnwch ac ymdeimlad o gyflawniad personol.

Ar wahân i’r sgiliau ymarferol, gwelwyd datblygiad cymdeithasol amlwg. Roedd cyfle i ddisgyblion wneud ffrindiau newydd, rhyngweithio â chyd-ddisgyblion nad ydynt efallai’n eu hadnabod yn dda eto, a chreu atgofion a fydd yn para drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae’r ymdeimlad o gymuned a chyd-gefnogaeth a welwyd trwy gydol y daith yn adlewyrchu’r gwerthoedd yr ydym yn ceisio'u meithrin yn ein hysgol.

Hoffem ddiolch i’r staff a aeth ar y daith ac a gyfrannodd o'u hamser a’u hegni i sicrhau bod y profiad yn ddiogel, yn bleserus ac yn gyfoethog.

CY