Actorion Ifanc i Berfformio yn Venue Cymru

Mae gennym ni actorion pantomeim talentog yn dod i fri! Llongyfarchiadau i Lydia ym Mlwyddyn 8 ac Alana ym Mlwyddyn 7, sydd ill dwy yn mynd i ymddangos ym mherfformiad eleni o Sleeping Beauty yn Venue Cymru. Mae'r merched yn cael gwersi gyda'i gilydd yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Pearl Shaw yn Hen Golwyn. Mae eu hymroddiad wedi talu ar ei ganfed yn sicr!

Ynghyd â 160 o blant eraill, cafodd y ddwy dalentog glyweliad ar gyfer y rolau, a chawsant eu dewis fel aelodau o'r un deg chwech o berfformwyr a fydd yn ffurfio'r Ensemble Iau ar y llwyfan y Nadolig hwn.

Bydd y pantomeim yn cynnwys y seren Jack P Shepherd o Coronation Street.

Rydym yn falch o rannu'r newyddion da am ein myfyrwyr llwyddiannus. Edrychwn ymlaen at weld eu perfformiad ym mis Rhagfyr!

CY