Llongyfarchiadau mawr i’n carfan pêl-droed bechgyn Blwyddyn 7 anhygoel a gyrhaeddodd Rownd Derfynol Cwpan Pêl-droed Cenedlaethol yng Nghlwb Pêl-droed TNS eleni. Profiad bythgofiadwy i bawb a gymerodd ran!
Hoffem ddiolch i'r rhieni sydd wedi cefnogi'r bechgyn ym mhob cam o'r gystadleuaeth yn ogystal â'r holl hyfforddwyr sydd wedi datblygu ein carfan chwarae i fod mor gystadleuol ar y llwyfan Cenedlaethol. A diolch arbennig o fawr i'n noddwr crysau lleol newydd 'BYD Gogledd Cymru’.

Diolch yn fawr i’n capten Gwilym, ’Chwaraewr y Flwyddyn‘ y Chwaraewyr, Fraser, a William, ’Chwaraewr y Flwyddyn’ yr Hyfforddwyr. Da iawn ac edrychwn ymlaen at fwy o bethau da y flwyddyn nesaf!
