Ddydd Mercher, cafodd ein disgyblion Blwyddyn 7 gyfle i gymryd rhan mewn Diwrnod "Drop Down" arbennig yn Neuadd yr Ysgol. Roedd y diwrnod wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad personol y disgyblion drwy archwilio amrywiaeth, cydraddoldeb a phwysigrwydd parch at bawb mewn gymdeithas cynhwysol. Yn ystod y sesiynau, bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol, trafodaethau ac heriau a'u hannog i feddwl yn feirniadol am stereoteipiau, hunaniaeth, perthyn a sut y gallwn adeiladu ar gryfderau’r ysgol lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael bod yn nhw eu hunain.



Roedd lefel yr ymgysylltu a'r aeddfedrwydd a ddangoswyd gan y disgyblion yn arbennig o drawiadol. Rhannodd llawer eu syniadau'n hyderus, gwrandawodd yn barchus ar safbwyntiau eraill a dangosodd ddealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd empathi, caredigrwydd a chynhwysiant. Mae'r diwrnod hwn yn ffurfio rhan o ymrwymiad parhaus Ysgol Aberconwy i hyrwyddo gwerthoedd cydraddoldeb, parch a lles, gan sicrhau bod pob unigolyn yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu.


Hoffem ddiolch i holl ddisgyblion Blwyddyn 7 am eu hagweddau cadarnhaol a'u cyfraniadau gwych drwy gydol y dydd, yn ogystal â'r aelodau staff a fu'n cynllunio ac yn arwain y sesiynau. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y negeseuon pwysig hyn drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf.