Sgiliau Achub Bywyd

Yn ddiweddar, bu Christopher West o Achub Bywyd Cymru yn hyfforddi 12 o fyfyrwyr Ysgol Aberconwy i fod yn Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Brys. Yn ystod y cam nesaf bydd ein hyfforddwyr ifanc yn defnyddio'u sgiliau achub bywyd allweddol fel CPR, defnyddio diffibriliwr, safle adfer, a mwy ar fyfyrwyr eraill Ysgol Aberconwy.

Rydym yn hynod ddiolchgar i glwb Rotary ac yn arbennig i Sarah Burgess ac Ian Beirne sydd wedi cefnogi'r cyfle hyfforddi amhrisiadwy hwn. Diolch!

CY