Llongyfarchiadau i'n pêl-droediwr ac athletwr hynod dalentog, Harry ym mlwyddyn 9, a gynrychiolodd Gogledd Cymru yn erbyn De Cymru ddiwedd mis Ionawr.
Chwaraeodd Harry y gêm gyfan fel amddiffynwr canol i'r tîm gogleddol, mewn gêm gyfartal gyfareddol o 2-2. Mae Harry'n chwarae i academi Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae'n rhan annatod o'n tîm bechgyn blwyddyn 9 hynod lwyddiannus.
Rydym yn hynod falch o ymdrechion Harry, ac rydym yn gobeithio am fwy o lwyddiant iddo yn y flwyddyn i ddod, gyda'r posibilrwydd y bydd yn cael ei ddewis i chwarae yng Nghwpan Cymru yr haf hwn.
