Llongyfarchiadau i'n timau pêl-droed bechgyn Blwyddyn 7 a Blwyddyn 9 wrth iddynt symud ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan FA Ysgolion Cymru, yn dilyn eu buddugoliaethau rhagorol yr wythnos hon.
Roedd tîm Blwyddyn 7 yn fuddugol o 4 gôl i 2 oddi cartref yn Wrecsam yn erbyn Ysgol Alun. Sgoriodd Isaac 2 gôl gyda Rio a Fraser yn sgorio'r lleill. Ymdrech tîm ardderchog gyda pherfformiadau nodedig gan y capten Gwilym, Oliver a Rhys.
Gadawodd tîm Blwyddyn 9 y cae yn fuddugwyr amlwg yn dilyn buddugoliaeth gartref o 8-1 yn erbyn Dinas Bran. Sgoriodd y chwaraewr rhyngwladol o Gymru, Jaxen, bum gôl, sgoriodd Lucas ddwy gôl a 'r seren canol cae, Harry, a sgoriodd y goliau eraill. Dyma un o'r perfformiadau mwyaf unochrog a welwyd gan y tîm ers iddynt ddechrau chwarae dros yr ysgol.
Bysedd wedi'u croesi am lwyddiant pellach yn rownd yr wyth olaf i'r ddau dîm!

