Rydym yn gyffrous iawn i ddatgan bod Tîm Cenedlaethol Ysgolion Cymru, gan gynnwys ein Jaxen talentog, wedi curo Dinas Abertawe 3-2!

Sgoriodd Jaxen ddwy o'r goliau ei hun, gan chwarae gêm anhygoel, a phrofi pa mor gryf ydy o fel chwaraewr! Pob lwc iddo fo a gweddill y tîm ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Manchester United ar Chwefror 10fed.