Myfyriwr yn Rhannu Pryd o Fwyd gyda Staff

Ar ddiwedd y tymor diwethaf, daeth un o'n myfyrwyr â phryd Cwrdaidd hyfryd o gig oen, cyw iâr a reis i'w rannu gyda'r staff. Paratowyd y pryd blasus gyda balchder a haelioni ganddyn nhw a'u teulu.

Croesawyd a gwerthfawrogwyd y pryd yn fawr gan y staff, ac roedd yn adlewychu'r perthnasoedd cryf sydd gennym gyda’n myfyrwyr a’n teuluoedd.

Rydym yn hynod ffodus i weithio mewn cymuned ysgol lle dangosir caredigrwydd, cyfoeth diwylliannol, a pharch at ei gilydd mewn ffyrdd mor feddylgar. Mae adegau fel hyn yn wirioneddol adlewyrchu'r gwerthoedd sydd gennym a'r amgylchedd yr ydym yn ymdrechu i'w greu.

CY