Anrhydeddu Sul y Cofio

Ddydd Sul, Tachwedd 9fed, cafodd prif ddisgyblion ein hysgol, Amelia Northrop a Sion Bailey, y fraint o fynychu gwasanaeth Sul y Cofio yng Nghonwy ochr yn ochr â'r Pennaeth, Mr Gerrard. Gosodasant dorch o flodau pabi, symbol o gofio, wrth y gofeb ar ran yr ysgol, yn arwydd nid yn unig o'n diolchgarwch ond hefyd ein haddewid i gofio'r rhai sydd wedi rhoi cymaint a'r aberthau a wnaed, gan nifer dirifedi o unigolion wrth geisio heddwch a rhyddid.

CY