Llongyfarchiadau i Annabella Wise ym mlwyddyn 8 am gystadlu a llwyddo yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd eleni.
Yn y cystadlaethau rhanbarthol daeth Annabella yn 1af yn y gystadleuaeth Serameg i flynyddoedd 7-9 ac yn y gystadleuaeth 3D i flynyddoedd 7-9. Daeth hefyd yn 2il yn y gystadleuaeth dylunio crys-T.
Aeth gwaith buddugol Annabella drwodd i’r llwyfan cenedlaethol a daeth yn 3ydd gyda’i darn 3D ac yn 1af gyda’i dyluniad crys-T.
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ddiwedd mis Mai. Rydym yn falch iawn ohonot ti Annabella!