Shout!

Yn ystod wythnos olaf y tymor, fel rhan o gynllun National Theatre Connections 2024, bu myfyrwyr yn perfformio drama newydd Alexis Zegerman, Shout! Mae'r ddrama'n archwilio Mudandod Dethol, gan roi cipolwg pwerus i'r gynulleidfa ar y syndrom hwn.

Roedd Jac Moore, cyfarwyddwr o'r cynllun Connections, yn bresennol yn y perfformiad ddydd Mercher a rhoddodd adborth cadarnhaol i'r grŵp.

Bydd y criw nawr yn perfformio’r ddrama mewn gŵyl ranbarthol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ebrill.

 

CY