Eisteddfod Ysgol Aberconwy.

Eleni cynhaliwyd ein heisteddfod ysgol ryng-dŷ blwyddyn 7 ar ddydd Gwener, Mawrth 18fed. Gwelsom amrywiaeth eang o gystadlaethau ar y llwyfan, o ganu ac offerynnau i ddatganiadau grŵp a dawnsio. Cawsom hefyd dasgau gwaith cartref o safon uchel iawn, wedi'u gosod gan wahanol bynciau.

Uchafbwynt y diwrnod oedd seremoni draddodiadol y gadair a’r goron. Llongyfarchiadau i Twm am ennill cystadleuaeth y gadair am ysgrifennu chwedl wreiddiol ‘Antur y dyn Racal’, ac i Sophie a enillodd y goron drwy ddylunio byd ffuglen, map ar gyfer y byd hwnnw a stori i’w hadrodd ar lafar. Llongyfarchiadau hefyd i Charlie a enillodd Medal y Dysgwyr trwy ysgrifennu cofnod dyddiadur penwythnos. Enillydd y dydd eto eleni oedd Llugwy!

Da iawn i’r holl staff a myfyrwyr a gymerodd ran a diolch yn fawr i’n gwestai arbennig a’n cyn-ddisgybl Alistair James am ymuno â ni ar y panel beirniadu.

CY