Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Ddydd Gwener 8 Mawrth, dathlodd Ysgol Aberconwy Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 mewn steil gyda gwerthiant cacennau, posteri, arddangosiadau, rhubanau, sticeri a cherddoriaeth. Buom hefyd yn gwylio myfyriwr blwyddyn 10 Lacey yn chwarae pêl-rwyd i Gymru mewn twrnamaint Pencampwriaeth Ewropeaidd wedi’i ffrydio’n fyw o Gibraltar. Roedd y diwrnod yn llawn gweithgareddau grymusol ond yr uchafbwynt oedd gosodwaith o gannoedd o nodiadau yn neuadd yr ysgol, un wedi ei ysgrifennu ar gyfer pob myfyrwraig yn yr ysgol! 

Llongyfarchiadau i’r tîm anhygoel o wirfoddolwyr benywaidd a roddodd hyn at ei gilydd gan wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant! 

CY