Beicio dros Gymru Eto!

Llongyfarchiadau i Sam ym mlwyddyn 11 ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru eto wrth iddo ail-ymuno â Thîm Beicio Cymru!

Bydd yn teithio i'r Alban ym mis Ebrill i gystadlu yn nigwyddiad Taith Ieuenctid Yr Alban 2023 - ras ffordd 4 diwrnod, gyda 5 cymal, lle bydd timau sy'n cynrychioli eu rhanbarth neu eu gwlad yn cystadlu.

Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd yn dod ymlaen a dymunwn y gorau iddo yn y gystadleuaeth hon a phob ras arall y mae’n cystadlu ynddi.

CY