Pencampwyr Iaith Busnes

Ar ddydd Mawrth 6ed Chwefror cynhaliodd Ysgol Aberconwy gystadleuaeth Pencampwyr Iaith Busnes i fyfyrwyr blwyddyn 10. Cymerodd 14 tîm o chwe ysgol wahanol ar draws Conwy, Gwynedd a Sir Ddinbych ran mewn amrywiaeth o dasgau cyffrous, gyda phob tîm yn cymryd rhan yn yr iaith yr oeddent yn ei hastudio (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg). Gwelsom rai cyflwyniadau gwych a chreadigrwydd gan ein myfyrwyr. Roedd yna wefr go iawn yn y neuadd drwy'r dydd!

Roedd dau dim o Ysgol Aberconwy yn cystadlu - gwnaeth ein tim Ffrangeg argraff fawr ar y beirniaid, a ddywedodd bod safon eu sgiliau dadlau a chyfathrebu yn drawiadol iawn! Canmolodd y beirniaid y tîm Almaeneg hefyd, gan ddweud eu bod wedi cynrychioli'r iaith yn dda iawn.

Cafodd un o'n myfyrwyr gydnabyddiaeth am ei agwedd trwy gydol y dydd, llongyfarchiadau a da iawn Finlay!

Roedd hon yn enghraifft wirioneddol wych o faint y gall Ieithoedd Rhyngwladol ei gyfrannu at brofiad dysgu ein myfyrwyr ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o ddigwyddiadau fel hyn.

CY