Diddanu'r Gymuned

Aeth côr Ysgol Aberconwy allan i’r gymuned ar y dydd Iau a’r dydd Gwener cyn y Nadolig. Buont yn ymweld â chartrefi gofal lleol i’r henoed yn ogystal â The Blind Veterans a Thŷ Gobaith lle buont yn perfformio rhai caneuon Nadoligaidd a charolau Nadolig i’r trigolion. Cafwyd amser gwych gan bawb!

CY