Siaradwyr Gwadd ar gyfer HSCCC

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant blwyddyn 10 wedi elwa o sgyrsiau a roddwyd gan ddau sefydliad lleol.

Arweiniodd Ffit Conwy gwrs ar Gyflwyniad i Chwarae. Cafodd y merched amser gwych yn deall pwysigrwydd chwarae yn nhwf a datblygiad plant a phobl ifanc.

Cawsom sgwrs hefyd gan Sandie Grieve o Gofal Cymdeithasol Cymru. Rhoddodd sgwrs ardderchog am rôl bwysig gofal cymdeithasol yng Nghymru, a natur foddhaus swyddi yn y sector hwnnw. 

CY