Glastonbury Goes Global

Daeth Pencampwyr Ieithoedd Busnes (BLC) i Ogledd Cymru i gynnal digwyddiad iaith busnes yn Ysgol Aberconwy ar gyfer dysgwyr iaith blwyddyn 9. Mynychwyd y digwyddiad gan ysgolion o Gonwy a Gwynedd, gyda naw tim i gyd yn cynrychioli'r Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg.

Galwyd y digwyddiad yn 'Glastonbury Goes Global'. Yn eu timau iaith, roedd yn rhaid i fyfyrwyr gydweithio drwy gydol y dydd ar dasgau yn gysylltiedig â threfnu gŵyl gerddoriaeth ryngwladol. Roedd yn rhaid i fyfyrwyr ddewis gwlad lle byddai eu gŵyl yn cael ei chynnal a lle mae eu hiaith darged yn cael ei siarad, a dewis yn ofalus ganwr neu gynrychiolydd adnabyddus o'r wlad/iaith honno fel 'atyniad' i ddod â'r torfeydd i mewn.

Roedd elfennau iaith y gystadleuaeth yn cynnwys archebu deunyddiau o fewn cyllideb er mwyn adeiladu model o’u gŵyl, creu a gofyn cwestiynau i'w holi i'r prif berfformiwr, creu hysbyseb YouTube ar gyfer eu gŵyl, a ‘gwerthu’ eu syniad gŵyl i’r timau eraill.

Llongyfarchiadau i Ethan, Stanley, Dylan, Lillie, Toby a Grace a oedd yn rhan o dîm Almaeneg Ysgol Aberconwy am ddod yn ail yn y gystadleuaeth, diolch i ymdrechion y tîm a gallu Ethan i werthu eu syniad! Da iawn hefyd i Zina a enillodd wobr am ymdrech arbennig, a hefyd i Mabon, George, Anya ac Arwen, a oedd yn aelodau o'n tîm Ffrengig.

Gwnaeth pob tîm ymdrech arbennig a chafodd pawb ddiwrnod pleserus a llwyddiannus.

CY