Bore Gweithgaredd Plant Bach

Cynhaliodd grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 11 TGAU Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant fore o weithgareddau babanod a phlant bach yn Eglwys Sant Ioan ddydd Gwener 8 Rhagfyr.

Y gweithgareddau oedd paeintio bysedd, hwyl gyda 'playdough', blociau adeiladu, amser bol a hwiangerddi. 

Cafodd y myfyrwyr amser bendigedig gyda’r rhai ifanc a mwynhau sgwrsio gyda’r oedolion hefyd! Diolch arbennig i Gareth a Kathryn o'r eglwys am eu cefnogaeth wych.

Cafodd pawb fore gwych!

CY