Taith i Stiwdios Ffilm Aria

Aeth myfyrwyr Lefel A Cymraeg a myfyrwyr Cyfryngau a Ffilm Blwyddyn 11 a 12 ar daith ar Ragfyr 1af i Stiwdios Ffilm Aria yn Llangefni. Cawsant amser mor dda yno – cawsant gyflwyniad i weithio yn y Cyfryngau a theledu yng Nghymru, taith o amgylch set Rownd a Rownd a chyflwyniad i waith camera a graffeg yn y byd ffilm. Roedd yn brofiad gwych i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran (Mrs Grimward a Mrs Williams wedi mwynhau hefyd!!). Diolch yn fawr iawn i Gyrfa Cymru am drefnu'r daith.

CY