Nadolig Rhyng-genedlaethol

Ar y 1af o Ragfyr, trefnodd a chynhaliodd myfyrwyr TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Blwyddyn 11 ddigwyddiad Nadolig rhyng-genedlaethol ar gyfer oedolion hŷn yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Cynlluniwyd y digwyddiad hwn gyda Thîm Llesiant Conwy. 

Roedd y gweithgareddau'n cynnwys chwileiriau, croeseiriau, addurno peli coeden Nadolig, gwneud cardiau Nadolig, addurniadau cacennau bach a bingo. 

Cafodd y merched sgyrsiau gwych gyda'r oedolion hŷn o'r gymuned leol. Gwnaethpwyd rhai cysylltiadau hyfryd, a chafodd pawb hwyl. 

CY