Llwyddiant Sioe Ceffyl y Flwyddyn

Llongyfarchiadau i Maddison, ym mlwyddyn 11, ar ei llwyddiant diweddar yn Sioe Ceffyl y Flwyddyn yn yr NEC yn Birmingham.

Cystadlodd yn erbyn 17 o gystadleuwyr o rowndiau rhagbrofol o bob rhan o’r DU yn ei chategori (Merlod Marchogaeth 148cm) gan gyflawni camp anhygoel drwy ddod yn 8fed. Mae’r canlyniad hwn yn golygu bod Maddison a’i merlen Hollyland Lion In Winter (Bertie) bellach yn yr 8 cyfuniad gorau yn y DU!

Dymunwn bob lwc i Maddison wrth iddi fynd ymlaen i gystadlu yn Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain ym mis Rhagfyr.

CY