Yr Ysgol Uwchradd Gyntaf yng Ngogledd Cymru i Ennill y Wobr!

Mae Ysgol Aberconwy wedi ennill Gwobr Efydd y Siarter Iaith Uwchradd sy’n golygu mai ni yw’r ysgol uwchradd gyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill yr anrhydedd hon!

Cyflwynwyd y wobr i’r Pennaeth, Ian Gerrard, a’r Cydlynwyr Luned Parry ac Elen Williams gan Sharon Jones o GwE ar nos Wener 15fed Medi, mewn seremoni fechan a gynhaliwyd yn yr ysgol, i gydnabod y gwaith y mae'r ysgol, ein staff a’n myfyrwyr. wedi gwneud i hyrwyddo treftadaeth ac iaith Cymru.

Yn ystod y seremoni, esboniodd Cydlynydd y Siarter Iaith a’r cydlynydd Cymreictod a Dwyieithrwydd sut mae’r ysgol wedi gwneud newidiadau i hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ym mywyd bob dydd yr ysgol, trwy weithredu'r Siarter Iaith a pholisïau eraill sy’n annog defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol. Dywedodd Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth yr Adran Gymraeg a Chydlynydd y Siarter Iaith, “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i ennill y wobr hon, yn enwedig aelodau’r Cyngor Iaith sydd wedi cymryd rôl arweiniol wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac wrth fonitro adrannau. Cychwynasom ar ein taith ar sail geiriau enwog Dewi Sant 'Gwnewch y pethau bychain' a thyfodd o'r fan honno. Rydym wedi gweithio’n galed i sefydlu ethos Cymreig gweledol o amgylch yr ysgol, mae hysbysfyrddau ac arwyddion yn ddwyieithog ac mae enwau Cymraeg ar bob rhan allweddol o’r ysgol erbyn hyn. Rydym wedi trefnu clybiau a gweithgareddau sy’n datblygu defnydd a mwynhad o’r Gymraeg, a’r uchafbwynt yw ein heisteddfod ysgol yn dathlu Cymreictod, llenyddiaeth, cyfathrebu a’r Celfyddydau Perfformio. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rydym yn falch iawn o fod yn gwneud ein rhan i geisio cyflawni hyn.”

Crëwyd Siarter Iaith Gymraeg i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mae’n annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol – myfyrwyr, rhieni, llywodraethwyr ysgol a’r gymuned ehangach. Mae ysgolion yn pennu eu defnydd presennol o iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd y Pennaeth, Ian Gerrard, “Mae’n fraint derbyn gwobr y Siarter Iaith, sy’n destament i waith cymaint o fyfyrwyr a staff yr ysgol ac sy’n adlewyrchu rhan gyntaf ein taith i fod yn ysgol o Gymru ac nid ysgol yng Nghymru yn unig. Mae’n bleser gweld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy yn yr ysgol, yn y coridorau yn ogystal ag yn y dosbarth, a chael profi cymaint y mae’r cwricwlwm newydd yn llywio dealltwriaeth plant o’n diwylliant a’n treftadaeth. Mae hwn yn ‘Da Iawn’ enfawr i bawb sy’n cymryd rhan ac yn gymhelliant gwirioneddol i ddatblygu pethau ymhellach wrth i ni anelu at y gwobrau arian ac aur!”

CY