Myfyrwyr Aberconwy yn dathlu llwyddiannau arbennig! 

Mae myfyrwyr Aberconwy yn dathlu eu llwyddiannau Safon Uwch rhagorol yr wythnos hon gyda phob myfyriwr sydd wedi gwneud cais i brifysgol, yn ennill lle. Cafwyd rhai perfformiadau eithriadol gan Libby Rubin [A*, A*, A, A], Cai Coulson [A*, A, A, B], Jess Halsey [A*, A, A, B], Kiara Howard [A *, A, A, B], Osian Humphreys [A*, A. B, B] a Jacob Jones [A*, A, B, B]. 

Mae myfyrwyr yr ysgol nawr yn edrych ymlaen at fynd ymlaen i astudio amrywiaeth eang o gyrsiau gradd cyffrous neu gael mynediad at rai llwybrau gyrfa cyffrous ac ysbrydoledig. Er enghraifft, bydd Evie Arkell, Albie Armitage a Sylwester Ruszkowski yn ymuno â'r Awyrlu; mae Tilly Cockrill yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Pensaernïaeth; bydd Martha Duncan yn astudio Cemeg Feddyginiaethol a Darganfod Cyffuriau ym Mhrifysgol Birmingham; mae Ethan Hughes yn mynd i astudio Gwleidyddiaeth gydag Ieithoedd yng Nghaeredin; Bydd Jacob Jones a Libby Rubin yn astudio Mathemateg ym Manceinion a Loughborough yn y drefn honno.  

Llongyfarchodd y Pennaeth Ian Gerrard yr holl fyfyrwyr a staff ar eu canlyniadau a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd yng nghyflawniadau ein myfyrwyr eleni ac mae'n galonogol eu gweld yn cael mynediad i ddewis mor eang ac amrywiol o gyrsiau prifysgol yn ogystal â phrentisiaethau a llwybrau gyrfa eraill. Mae staff a myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn dan amgylchiadau anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn falch iawn o’u cyflawniadau. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.”

Myfyrwyr Aberconwy yn dathlu llwyddiannau eithriadol yn 2023
CY