Taith Noddedig

Aeth staff a myfyrwyr allan i Gonwy mewn glaw trwm ar gyfer y daith gerdded noddedig flynyddol ar ddydd Gwener, Gorffennaf 14eg, gan godi dros £1500 ar gyfer ein hapêl elusennol FirstGive.

Er bod y tywydd yn ddifrifol, aros yn bositif wnaeth y myfyrwyr a'r staff, gan ddangos penderfynoldeb a gwydnwch gwirioneddol, er eu bod yn wlyb diferol.

Da iawn chi, bawb - ymdrech wych!

CY