Wythnos Trosglwyddo a Diwrnod Blwyddyn 5

Rydyn ni wedi mwynhau croesawu disgyblion fydd yn cychwyn gyda ni y flwyddyn nesaf o flwyddyn 6 am bedwar diwrnod ar ddechrau Gorffennaf. Roedd yn hyfryd cael cyfarfod pawb ac rydyn ni'n gobeithio cawson nhw amser gwych a'u bod yn teimlo'n barotach i ymuno â ni ym mis Medi. 

Agoron ni ein drysau yn ogystal i flwyddyn 5 yr wythnos ddiwethaf. Bu'n ddiwrnod llwyddiannus tu hwnt lle cafodd y disgyblion gyfleoedd i gael hwyl o gwmpas yr ysgol. Rydyn ni'n edrych ymlaen i weld mwy ohonyn nhw y flwyddyn nesaf. 

CY