Mae Sam yn Seiclo 1000 o Filltiroedd

Pob lwc i Sam, ym mlwyddyn 10, wrth iddo ymgymryd â’i 3ydd Digwyddiad Beicio Pellter Hir y penwythnos hwn!

Mae Sam wedi teithio i Ogledd Ffrainc lle mae'r ras PanGeltaidd (hunan gynhaliol) yn dechrau yn St Malo ar ddydd Sul 2 Gorffennaf. Mae'r ras yn ymestyn dros 600 milltir o amgylch Llydaw a Normandi, yna ar ôl cael y fferi o Caen i Portsmouth, mae'r ras yn parhau i Fryste ac yna i fyny i Gymru. Mae’r llwybr yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr yr holl ffordd i fyny i Ogledd Cymru ac yn gorffen yn Llandudno, lle mae Sam yn gobeithio gorffen y ras ar ddydd Sul 9fed Gorffennaf.

Mae Sam yn defnyddio'r ras hon fel cyfle i godi arian ar gyfer bachgen 13 oed sy'n derfynol wael. Os hoffech chi noddi Sam gallwch gyfrannu yma.

CY