Cynrychioli Cymru mewn Pencampwriaethau Karate

Llongyfarchiadau i Macie, myfyrwraig blwyddyn 8, a gafodd ei dewis i gynrychioli Cymru eto, ochr yn ochr ag aelodau eraill o’i chlwb carate Hajime Hiro yn Llandudno, ym Mhencampwriaethau Karate Shito Ryu y Byd ac Ewrop yn Romania.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth dros 3 diwrnod a chymerodd sawl gwlad ran. Llwyddodd y clwb i sicrhau dwy fedal ac ennill cyfoeth o wybodaeth i ddod yn ôl i weddill y tîm. Roedd Macie wrth ei bodd gyda phob munud o gystadlu a chynrychioli ei chlwb a’i gwlad. 

CY