Lleisiau'r Carneddau (Carneddau Voices)

Mae criw o fyfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi bod yn dangos eu gwaith celf gwych mewn arddangosfa yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy mewn arddangosfa o’r enw Lleisiau’r Carneddau.

Datblygodd y myfyrwyr, gyda chymorth yr artist lleol Rachel Evans, weithiau celf a ysbrydolwyd gan fytholeg, traddodiadau ffermio a llên gwerin mynyddoedd y Carneddau sydd wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Creodd y myfyrwyr lyfrau braslunio gyda thudalennau wedi'u siapio i adleisio cromliniau corlannau. Datblygodd darluniau o nodau clust defaid yn gludwaith addurniadol, cyn esblygu eto i ffurfio cennau pysgod grotesg Llyn Dulyn bwganllyd. Ysbrydolwyd y gwaith print gan dylluan hynafol ac anifeiliaid eraill chwedlau Cwm Cowlyd.

Dywedodd yr artist Rachel Evans, “Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o’r broses hon ac rwy’n ddiolchgar i Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau, Canolfan Ddiwylliant Conwy ac Ysgol Aberconwy am eu cefnogaeth drwy’r cyfan. Yn ogystal ag ysgogi gwaith celf hyfryd, mae’r prosiect wedi meithrin cydnabyddiaeth o gysylltiadau personol â’r Carneddau.”

Os nad ydych wedi ei weld yn barod, mae amser o hyd i weld arddangosfa Lleisiau’r Carneddau yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy (ystafell gymunedol). Bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen yn fuan, felly peidiwch â cholli'r cyfle i weld y gwaith celf cydweithredol gwych hwn gan fyfyrwyr Ysgol Aberconwy.

Gwaith celf gan: Matilda Cockrill, Osian Humphreys, Miles Baker, Isla Shackleton, Ashley Mawson, Aleena Jones, Phoebe Moor. Gyda chyfraniadau gan: Shannon Edwards, Kiara Howard, Pauline Pritchard, Kimberley Protheroe, Courtney Lloyd Hughes, Charlotte Davies-Murray, Tiffany Sutton , Amelia Northrop, Kitty Carter-Smith, Lilly-Grace Roberts, Sarah Henson.

CY