Murlun i Orsaf Conwy

Mae myfyrwyr unwaith eto wedi ymuno ag Andy Birch (artist graffiti Dime One) i greu ail furlun gorsaf drenau yng ngorsaf reilffordd Conwy. Nod y murlun hwn yw atal tresmasu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd rheilffordd ac mae hefyd yn cyflwyno thema treftadaeth ein hardal leol. Cafodd y myfyrwyr amser gwych ac mae'r canlyniad yn edrych yn wych!

Diolch i Trafnidiaeth Cymru am ariannu’r prosiect anhygoel hwn, Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac wrth gwrs Dime One am ei wneud yn brofiad gwych i bawb a gymerodd ran.

CY