Dathlu Diwrnod Pi

Bu myfyrwyr dosbarth Mathemateg blwyddyn 7 Mr Geraint Simpson yn dathlu 'Diwrnod Pi' trwy astudio ychydig o hanes, gan ddysgu am y mathemategydd a'r athro a aned ym Môn, William Jones, y person cyntaf i ddefnyddio symbol i gynrychioli'r cysyniad platonig o pi. Yna dysgon nhw rai termau mathemategol Cymraeg yn gysylltiedig â pi a mynegi barn yn Gymraeg am fathemateg a phynciau eraill. 

CY