Taith i Pontio

Yn ddiweddar bu myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy’n astudio Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch ar daith i Pontio ym Mangor i weld ffilm Gymraeg newydd o’r enw Y Sŵn. Mae’r ffilm yn dramateiddio stori wir am sut y sefydlwyd S4C yn dilyn ton o anufudd-dod sifil, wedi i Lywodraeth Prydain dorri addewid i sefydlu sianel deledu Gymraeg.

Mwynhaodd y myfyrwyr y profiad hwn, a fydd hefyd o fudd i’w gwaith Safon Uwch, gan fod astudio hanes Cymru a’r Gymraeg ar draws y blynyddoedd yn rhan o'r maes llafur Safon Uwch. Roedd Mrs Williams a Mrs Parry wedi mwynhau hefyd!

CY